Rhif y ddeiseb:P-06-1389

Teitl y ddeiseb:Cyflwyno terfyn cyflymder o 30mya ar y gefnffordd trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais

Geiriad y ddeiseb: Mae llawer o ardaloedd preswyl yng Nghymru bellach yn elwa ar derfyn cyflymder o 20mya, gyda rhesymeg gref gan Lywodraeth Cymru ar sail tystiolaeth. Nid ydym yn teimlo ei bod yn ddiogel i’n pentrefi – Eglwys-fach a Ffwrnais – barhau i ddioddef terfyn cyflymder o 40mya.

Rydym wedi bod yn ymgyrchu i wneud y pentrefi yn fwy diogel i gerddwyr ers dros 30 o flynyddoedd, gyda dwy farwolaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.  Rydym am i Lywodraeth Cymru adolygu’r terfynau cyflymder o 40mya drwy’r pentrefi i alluogi trigolion i gerdded yn ddiogel ac i wella llesiant.

Saif y pentrefi ar yr A487.  Nid oes palmant ar hyd y rhan fwyaf o’r ffordd, felly mae’n rhaid i’n trigolion, gan gynnwys plant a phobl ifanc sy’n dal bysiau ysgol, trigolion sy’n ymweld â chymdogion neu’n mynd i ddigwyddiadau, a phentrefwyr hŷn sy’n dal y bws, i gyd gerdded ar yr A487 ei hun. Mewn rhai mannau, nid oes digon o le ar y ffordd i ddau gar basio ei gilydd, felly mae'n rhaid i fodurwyr arafu a dod i stop i osgoi’r cerddwyr hyn.

Mae sail resymegol Llywodraeth Cymru ar gyfer y terfyn cyflymder o 20mya drwy ardaloedd preswyl fel a ganlyn: “Mae’r dystiolaeth ledled y byd yn glir iawn - bydd gostwng cyflymder yn arbed gwrthdrawiadau, arbed bywydau a lleihau anafiadau - gan helpu i wella ansawdd bywyd a gwneud ein strydoedd a’n cymunedau lleol yn fwy diogel i bawb.”

 

O ystyried y dystiolaeth, teimlwn yn gryf iawn y dylai’r terfyn cyflymder trwy bentrefi Eglwys-fach a Ffwrnais gael ei adolygu a'i ostwng o 40mya.


1.        Y cefndir

Pentrefi yng Ngheredigion ar yr A487 yw Eglwys Fach a Ffwrnais . Mae'r A487 yn rhan o'r rhwydwaith cefnffyrdd o lwybrau strategol.

Llywodraeth Cymru yw’r Awdurdod Priffyrdd ar gyfer yr A487. Dirprwyir rheolaeth y ffordd o ddydd i ddydd i Asiant Cefnffyrdd Gogledd a Chanolbarth Cymru.

Fel mae'r ddeiseb yn ei awgrymu, mae trigolion y pentrefi wedi bod yn galw am welliannau o ran diogelwch y ffordd ers blynyddoedd. Ym mis Tachwedd 2023, cynhaliodd y trigolion orymdaith i alw am gwtogi ar y terfyn cyflymder ac am lunio llwybrau cerdded ar hyd ochr y ffordd. Cynhaliwyd gorymdaith debyg yn 2014 – bryd hynny yn cynnwys trigolion o’r pentref cyfagos, Glandyfi. Yn y cyfamser, mae galwadau am weithredu wedi parhau.

Gwariwyd £10 miliwn ar welliannau i ledu’r A487 yng Nglandyfi, a chwblhawyd y gwaith yn 2013. 

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae'r ddeiseb yn cyfeirio at bolisi Llywodraeth Cymru ar leihau'r terfyn cyflymder rhagosodedig ar ffyrdd cyfyngedig sef, y rhai sydd â goleuadau stryd ddim mwy na 200 llath ar wahân o 30mya i 20mya. Nid yw’r rhan o’r A487 yn Egwlys Fach a Ffwrnais yn ffordd gyfyngedig ac felly nid oedd y polisi hwn yn effeithio arni.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar gyfer gosod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru (SLSLiW) yn 2009. Mae hyn yn berthnasol i bob ffordd yng Nghymru ac eithrio traffyrdd. Mae’r canllawiau’n cael eu hadolygu ar hyn o bryd i adlewyrchu’r polisi terfyn cyflymder 20mya, ac ymdrinnir â’r broses ar gyfer pennu eithriadau i’r terfyn 20mya ar hyn o bryd drwy ganllawiau a gyhoeddwyd fel atodiad i ddogfen 2009.

Wrth drafod ystyriaethau ar gyfer gosod terfynau cyflymder, dywed SLSLiW, “Dylai astudiaeth o wrthdrawiadau traffig ac anafiadau ar y ffyrdd nodi a yw terfyn cyflymder presennol yn addas ar gyfer y math o ffordd a’r cymysgedd defnydd gan wahanol ddefnyddwyr y ffordd.”

Mae’n nodi hefyd:

Yn y bôn dylid ceisio sicrhau bod gyrwyr yn gyrru ar gyfl ymderau diogel sy’n adlewyrchu swyddogaeth y ffordd a’r effaith ar y gymuned leol. Dylid ystyried anghenion defnyddwyr ffyrdd sy’n agored i niwed a chymunedau yn llawn.

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ymgynghori ar strategaeth diogelwch ffyrdd newydd i Gymru.

Mae’r llythyr gan Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn amlygu bod y broses ar gyfer newid y terfyn cyflymder ar y ffordd hon wedi’i nodi yn y canllaw ar osod terfynau cyflymder lleol yng Nghymru. Dyma a ddywedodd:

 Mae cyhoeddi'r canllawiau SLSLiW newydd yn cael ei gydlynu i sicrhau    cyd-fynd â'r Strategaeth Diogelwch Ffyrdd newydd. Efallai y bydd y canllawiau newydd yn gweld newid yn y meini prawf ar gyfer terfynau cyflymder is yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu'r terfynau cyflymder ar draws ei Rhwydwaith Cefnffyrdd yn dilyn cyhoeddi'r canllawiau gan gynnwys y rhan hon o'r A487.

 

3.     Camau gweithredu Senedd Cymru

Er bod mater terfynau cyflymder wedi’i drafod yn helaeth, nid yw’n ymddangos bod y terfyn cyflymder yn Eglwys Fach a Ffwrnais ar yr A470 wedi’i godi.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.